Beth yw Communication Access?

Beth yw Communication Access?

Mae Communication Access yn golygu cefnogi pobl ag anawsterau cyfathrebu yn fwy effeithiol.

Unwaith y bydd sefydliad yn ymrwymo i’n hyfforddiant rhad ac am ddim a’n safonau er mwyn dod yn sefydliad cyfathrebu hygyrch, byddwn yn eu cynnwys yn ein cyfeiriadur cenedlaethol.

Bydd sefydliadau wedyn yn gallu arddangos symbol cyfathrebu hygyrch.

Pan fydd pobl ag anawsterau cyfathrebu yn gweld eich sefydliad yn arddangos y symbol, byddant yn defnyddio’ch gwasanaethau gyda mwy o hyder.

Cofrestrwch gyda Communication Access UK

Cofrestrwch gyda Communication Access UK

Mae Communication Access UK yn symud i sefydliad cynnal newydd yn yr wythnosau nesaf. Yn ystod y cyfnod pontio hwn, mae cofrestriadau newydd ar gau dros dro. Dewch draw eto am y wybodaeth ddiweddaraf.

1

Cofrestru

2

Cofrestru fel unigolyn neu sefydliad

3

Cwblhau’r hyfforddiant

4

Ymrwymo i'r safonau

5

Derbyn tystysgrif ac achrediad

6

Arddangos y symbol

7

12 mis yn ddiweddarach... adolygu cynnydd ac adnewyddu achrediad

Sefydliadau sy’n hybu Cyfathrebu Hygyrch

Sefydliadau sy’n hybu Cyfathrebu Hygyrch

Dyma rai o'r sefydliadau sydd wedi'u hachredu fel rhai sy’n hybu Cyfathrebu Hygyrch ledled y DU:

Pam mae Cyfathrebu Hygyrch yn bwysig?

Pam mae Cyfathrebu Hygyrch yn bwysig?

Nid yw cyfathrebu yn ymwneud â’r gallu i siarad yn unig. Mae hefyd yn ymwneud â’r gallu i glywed a deall yr hyn sy’n cael ei ddweud wrthym.

Mae hyn wrth wraidd urddas dynol.

Mae miliynau o bobl ledled y Deyrnas Unedig yn cael anawsterau cyfathrebu, gan gynnwys oedolion a phlant.

Gall anawsterau cyfathrebu ddigwydd am resymau gwahanol a gadael miliynau heb lais, heb allu cael mynediad a chyfle cyfartal.

1 o bob 5

person yn y DU yn profi anhawster cyfathrebu ar ryw adeg yn eu bywydau

Hyd at 10%

Mae gan 10% o holl blant a phobl ifanc rhyw fath o angen cyfathrebu hirdymor

Hyd at 90%

Mae gan 90% o bobl ag anabledd dysgu anhawster cyfathrebu

1 o bob 3

goroeswr strôc yn datblygu anhawster cyfathrebu

Straeon

Straeon

Astra yw’r derbynnydd yng Ngholeg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith, un o sefydliadau cyntaf y wlad sy’n hybu Cyfathrebu Hygyrch.

Yn y fideo hwn, mae hi’n siarad am werth hyfforddiant cyfathrebu hygyrch.

Cafodd y fideo hwn ei ffilmio cyn pandemig COVID-19.

Gallwch weld rhagor o fideos fel hyn yn ein tudalen straeon.

Sicrhau bod Communication Access UK yn rhad ac am ddim

Enillydd gwobrau

Mae Communication Access UK yn fenter sydd wedi ennill sawl gwobr gyda miloedd o bobl cael gafael ar ein hadnoddau ac yn eu defnyddio.

Gallwch helpu i sicrhau bod Communication Access UK yn rhad ac am ddim trwy gyfrannu yma.

Login
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.