Terms & conditions
Communication Access UK
Mae Communication Access UK yn bartneriaeth sy’n cael ei harwain gan Communication Matters, Coleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd, y Gymdeithas Strôc, Cymdeithas Clefyd Niwronau Motor, Headway – y gymdeithas anafiadau i’r ymennydd, y Rhwydwaith Cenedlaethol o Fforymau Rhieni Ofalwyr, Disability Rights UK, y Fforwm Anabledd Busnes ac Elusen Makaton.
Mae menter Communication Access UK yn cael ei gweinyddu gan Communication Matters ac felly cedwir hawlfraint yr holl ddeunyddiau ac eiddo deallusol gan Communication Matters y tu hwnt i’r eithriadau fel yr amlinellir isod.
Telerau defnyddio
Mae’r wybodaeth a ddarperir ar y wefan hon er budd pob person a sefydliad (gan gynnwys busnesau, cwmnïau ac ati) sydd â diddordeb mewn anawsterau cyfathrebu.
Mae partneriaeth Communication Access UK yn credu mewn lledaenu gwybodaeth yn rhydd am fenter Communication Access UK cyn belled ag y bo modd. Fodd bynnag, dylid rhoi cydnabyddiaeth briodol i Communication Access UK lle bynnag y mae’r wybodaeth yn ymddangos.
Gwaherddir yn llwyr ddefnydd masnachol o’r holl eitemau neu unrhyw eitem a ddangosir ac ni ellir eu cyhoeddi ychwaith heb awdurdodiad ymlaen llaw gan bartneriaeth Communication Access UK.
Gwaherddir yn llwyr ddefnyddio unrhyw un o logos, graffigau neu ffotograffau cofrestredig Communication Access UK heb ganiatâd y bartneriaeth ymlaen llaw.
Mae’r defnydd o’r Symbol Cyfathrebu Hygyrch yn amodol ar unigolion yn cwblhau’r pecyn hyfforddi eDdysgu; ac ymrwymiadau i ddarparu’r pecyn hyfforddi i staff a chadw at y safonau gan sefydliadau ym mlwyddyn gyntaf yr achrediad, ac arddangosiad o sut mae’r ymrwymiadau hyn wedi’u cyflawni yn y blynyddoedd dilynol.
Caniateir i sefydliadau lawrlwytho ac ymgorffori’r pecyn eDdysgu yn eu systemau rheoli dysgu eu hunain ar yr amod hwn.
Os hoffech ofyn am ganiatâd i ailddefnyddio cynnwys o unrhyw gyhoeddiadau neu wefan Communication Access UK mewn unrhyw gyfryngau, cysylltwch â Communication Matters neu e-bostiwch info@comunication-access.co.uk.
Ymwadiad
Mae partneriaeth Communication Access UK yn ymdrechu i sicrhau bod y wybodaeth a ddarperir ar y wefan hon yn gywir ar adeg ei chyhoeddi, yn amserol, yn ddiduedd ac yn ddefnyddiol.
Fodd bynnag, ni ddylid ystyried y wybodaeth a gynhwysir ar y wefan yn gyngor meddygol. Nid yw Communication Access UK yn gyfrifol am wallau neu hepgoriadau yn y wybodaeth a ddarperir nac unrhyw gamau gweithredu sy’n deillio o’r defnydd o wybodaeth o’r fath, ac nid yw’n gwneud unrhyw warantau o unrhyw fath, pa un a ydynt yn cael eu mynegi neu’n oblygedig mewn perthynas â’r wybodaeth hon. Mae defnyddio’r wybodaeth a ddarperir ar y wefan hon yn wirfoddol.
Nid yw Communication Access UK yn gwarantu y bydd y swyddogaethau sydd yn y deunydd a gynhwysir yn y wefan hon yn ddi-dor neu’n rhydd o wallau, y bydd diffygion yn cael eu cywiro, neu fod y wefan hon neu’r gweinydd sy’n sicrhau ei bod ar gael yn rhydd o firysau neu fygiau neu’n cynrychioli swyddogaeth, cywirdeb a dibynadwyedd llawn y deunyddiau.
Mae unrhyw gyfathrebu neu ddeunydd rydych chi’n ei drosglwyddo i’r wefan hon neu’n ei bostio arni, gan gynnwys unrhyw ddata, cwestiynau, sylwadau, awgrymiadau, neu debyg, yn cael ei drin fel gwybodaeth nad yw’n gyfrinachol ac nad yw’n berchnogol.
Mae eich defnydd o’r wefan hon yn golygu eich bod yn derbyn y telerau ac amodau hyn. Os na dderbynnir y telerau ac amodau hyn yn llawn, rhaid rhoi’r gorau i ddefnyddio’r wefan hon ar unwaith.
Mae’r telerau hyn yn cael eu llywodraethu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr a’u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Drwy ddefnyddio gwefan Communication Access UK, rydych yn cytuno i dderbyn awdurdodaeth unigryw Llysoedd Lloegr mewn perthynas ag unrhyw anghydfod a allai godi mewn cysylltiad â’r telerau hyn neu eich defnydd o’r wefan.
Hysbysiad hawlfraint
Hawlfraint (c) [2026] [Communication Matters].
Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau penodol yr hysbysiad hwn:
(a) rydyn ni, ynghyd â’n trwyddedwyr, yn berchen ar ac yn rheoli’r holl hawlfraint a hawliau eiddo deallusol eraill ar ein gwefan a’r deunydd ar ein gwefan; a
(b) cedwir yr holl hawlfraint a hawliau eiddo deallusol eraill ar ein gwefan a’r deunydd ar ein gwefan.