Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau Cyffredin

Symbol Cyfathrebu Hygyrch

Beth mae’n ei olygu os ydw i’n gweld y symbol?

Os ydych chi’n gweld y symbol mewn siop neu sefydliad, mae’n golygu bod darparwr gwasanaethau wedi derbyn hyfforddiant mewn cyfathrebu hygyrch a bod croeso i bobl sydd ag anhawster cyfathrebu.

Sut alla i ddefnyddio’r symbol?

Gellir arddangos y symbol mewn ffenestri siopau, ym mhenyn neu droedyn llythyrau/e-bost, penyn llythyrau ac ar wefannau. Gall unigolion hefyd wisgo bathodyn i ddangos eich bod yn cefnogi Cyfathrebu Hygyrch.

Ble alla i lawrlwytho Symbol Cyfathrebu Hygyrch?

Ar ôl mewngofnodi i’r wefan, gallwch lawrlwytho’r symbol trwy fynd i’r dudalen adnoddau ar y dangosfwrdd.

Hyfforddiant Communication Access UK

A allaf i gwblhau’r hyfforddiant fel unigolyn?

Gallwch. Gallwch gofrestru fel unigolyn ac yna ar ôl i chi gwblhau’r hyfforddiant gallwch ddefnyddio’r symbol.

Pa mor hir y mae’n ei gymryd i gwblhau’r modiwlau hyfforddi ar-lein?

Mae 4 modiwl hyfforddi ar-lein. Yn dibynnu ar y dysgwr, bydd yn cymryd rhwng 10 a 15 munud i gwblhau pob modiwl.

Rydyn ni’n argymell eich bod yn neilltuo awr i gwblhau pob un o’r pedwar modiwl; fodd bynnag, bydd rhai dysgwyr yn cwblhau’r cyfan mewn 40 munud.

Oes rhaid i mi ail-wneud yr hyfforddiant bob 12 mis?

Fel unigolyn rydyn ni’n argymell eich bod yn adolygu’r hyfforddiant bob 12 mis fel eich bod yn gallu adnewyddu eich tystysgrif. Bydd sefydliad yn nodi faint o aelodau o staff y maen nhw’n gobeithio y bydd yn derbyn hyfforddiant bob blwyddyn.

Argymhellir bod yr hyfforddiant yn dod yn rhan o raglen sefydlu ar gyfer staff newydd a’i fod hefyd wedi’i ymgorffori mewn hyfforddiant ymwybyddiaeth anabledd/cydraddoldeb ac amrywiaeth blynyddol.

Fel rhan o’r broses ail-achredu, bydd sefydliadau’n nodi sut maen nhw wedi bodloni’r uchelgais a ddatganwyd yn erbyn y safonau a/neu liniaru hynny; ac yn rhoi gwybodaeth am nifer yr aelodau staff sydd wedi derbyn yr hyfforddiant yn erbyn yr amcangyfrif a nodwyd yn flaenorol (a fydd yn cael ei drin fel dangosydd perfformiad).

Rwyf wedi cael e-bost yn dweud bod fy achrediad yn mynd i ddod i ben ond pan fyddaf yn mewngofnodi i gwblhau’r hyfforddiant mae’n dweud ei fod eisoes wedi’i gwblhau.

If you encounter this error, please email us at info@caukstage.wpengine.com and we will manually refresh the training modules.

Os byddwch yn dod ar draws y gwall hwn, anfonwch e-bost atom yn info@caukstage.wpengine.com a byddwn yn adnewyddu’r modiwlau hyfforddi â llaw.

Rwyf wedi cael e-bost yn dweud bod fy achrediad yn mynd i ddod i ben ond pan fyddaf yn cwblhau’r modiwlau, dydw i ddim yn cael tystysgrif newydd.

If you encounter this error, please email us at info@caukstage.wpengine.com and we will amend your learning record and your certificate will be updated.

Os byddwch yn dod ar draws y gwall hwn, anfonwch e-bost atom yn info@caukstage.wpengine.com a byddwn yn diwygio eich cofnod dysgu ac yn diweddaru eich tystysgrif.

 

Achrediad Communication Access UK ar gyfer sefydliadau

Beth mae achrediad gyda Communication Access UK yn ei olygu?

Mae achrediad yn golygu eich bod chi neu’ch sefydliad wedi cofrestru i fodloni safonau Cyfathrebu hygyrch naill ai trwy gwblhau’r hyfforddiant neu wedi cael eich achredu fel sefydliad sy’n hybu Cyfathrebu Hygyrch gan Communication Access UK.

Mae sefydliadau sydd wedi’u hachredu fel rhai sy’n hybu Cyfathrebu Hygyrch wedi’u cynnwys yn ein cyfeiriadur a gallant hefyd arddangos Symbol Cyfathrebu Hygyrch.

Beth yw’r safonau Cyfathrebu Hygyrch?

Mae 4 safon:

  1. Cydnabod bod pob grŵp yn cynnwys pobl sydd angen cymorth i gyfathrebu
  2. Darganfod pa gymorth sydd ei angen
  3. Bod yn rhagweithiol wrth gyfathrebu bob amser
  4. Dal ati

Mae sefydliad yn llunio cynllun gweithredu i nodi sut y byddan nhw’n bodloni’r safonau hyn yn seiliedig ar yr hyfforddiant a’r canllawiau.

Beth yw’r broses i fy sefydliad gael ei achredu?

Mae ein cynllun achredu yn wahanol i fentrau eraill gan nad ydyn ni’n asesu cydymffurfiaeth, yn hytrach gofynnwn i chi gyflwyno cynllun ar gyfer sut mae eich sefydliad yn anelu at sicrhau cyfathrebu hygyrch yn unol â’n safonau.

  1. Yn gyntaf, bydd angen i chi greu cyfrif gan ddefnyddio’r botwm ‘cofrestru fel sefydliad’ ar yr hafan. Rydyn ni’n argymell defnyddio cyfeiriad e-bost generig neu ganolog, fodd bynnag, os nad yw hyn yn bosibl, mae’n iawn defnyddio eich cyfeiriad e-bost eich hun. Bydd yr enw a’r cyfeiriad hwn wedyn yn cael eu cysylltu â chyfrif eich sefydliad.
  2. Y cam nesaf yw adolygu ein canllawiau Canllawiau i sefydliadau – Communication Access UK (caukstage.wpengine.com) ac ystyried sut y gallwch chi fel sefydliad sicrhau cyfathrebu hygyrch.
  3. Nesaf, cwblhewch y ffurflen achredu (ar hafan y dangosfwrdd) gan gynnwys cynlluniau/taith eich sefydliad i sicrhau cyfathrebu hygyrch.
  4. Yna bydd tîm CAUK yn adolygu eich ffurflen achredu ac yn cadarnhau eich achrediad trwy e-bost.
  5. Ar ôl eich achredu, byddwch yn cael eich rhoi ar ein cyfeiriadur ar-lein o sefydliadau sy’n hybu cyfathrebu hygyrch.
  6. Yna eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod eich sefydliad yn dilyn y camau a amlinellir yn eich cynllun.

Faint mae’n ei gostio?

Nid oes unrhyw gostau uniongyrchol yn gysylltiedig â mabwysiadu Symbol Cyfathrebu Hygyrch, y safonau a’r pecyn e-Ddysgu; nac ar gyfer sicrhau achrediad ac adnewyddu’n flynyddol.

Gall sefydliadau ysgwyddo costau posibl ar gyfer manion (sticeri ffenestri ac ati) ac ar gyfer argraffu copïau ychwanegol o’r symbol (gan na fydd CAUK yn darparu fersiynau printiedig ond bydd yn darparu mynediad at ddelweddau fector digidol) a bydd hawl gan y sefydliad i’w hargraffu.

Efallai y bydd angen i sefydliadau ystyried amser staff ar gyfer hyfforddiant ac adnewyddu blynyddol.

Mae CAUK yn ceisio nawdd a rhoddion er mwyn parhau i weithredu, a byddai unrhyw gymorth ariannol yn cael ei gydnabod a’i gredydu ar draws sianeli cyfathrebu yn briodol.

Pa mor hir mae’r achrediad yn para?

Mae’r achrediad yn para am 12 mis.

A fydd fy sefydliad yn derbyn tystysgrif ar ôl iddo gael ei achredu?

Nid yw sefydliadau yn derbyn tystysgrifau ar ôl cael eu hachredu. Yn lle hynny, byddwch yn derbyn cadarnhad e-bost o achrediad a bydd eich sefydliad yn cael ei roi ar ein cyfeiriadur ar-lein o sefydliadau sy’n hybu cyfathrebu hygyrch.

Bydd eich sefydliad wedyn yn gallu arddangos symbol Cyfathrebu Hygyrch.

Beth sy’n digwydd os byddaf yn derbyn gwasanaeth gwael mewn man lle mae’r symbol yn cael ei arddangos?

Ein nod yw annog sefydliadau i weithredu’r safonau.

Ni fydd CAUK byth yn ceisio rhwystro neu atal cyfranogiad sefydliad yn y fenter hon, ond byddwn yn ceisio cefnogi ac annog cynnydd yn weithredol.

Login
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.