Amdanom ni

Beth yw Communication Access UK a phwy all gofrestru?

Beth yw Communication Access UK a phwy all gofrestru?

Mae Communication Access UK yn fenter a ddatblygwyd mewn partneriaeth gan elusennau a sefydliadau sy’n rhannu gweledigaeth i wella bywydau pobl sydd ag anawsterau cyfathrebu.

Mae’r bartneriaeth yn cynnwys:

Gyda’n gilydd, rydyn ni wedi datblygu’r symbol cyfathrebu hygyrch, sef symbol hygyrchedd newydd i bobl anabl sydd wedi’i ategu gan becyn hyfforddi sydd ar gael yn rhad ac am ddim a safonau.

Rydyn ni’n gobeithio y bydd y rhain yn eich helpu chi, neu’ch busnesau / sefydliad i gefnogi pobl ag anawsterau cyfathrebu yn well.

The communication access symbol is a blue square. Inside the square is the outline of two white heads which are facing each other. There are clockwise arrows, one above and one below the heads showing that communication is a two way process. Both heads have ears, eyes and a mouth showing that listening, looking, understanding and speech are all important in communication access.

Pwy sy’n gallu cofrestru?

Mae Communication Access UK wedi’i ddatblygu ar gyfer sefydliadau ac unigolion ac mae’n gwbl rhad ac am ddim.

Mae unrhyw un yn gallu cofrestru gyda Communication Access UK a chwblhau’r pecyn hyfforddiant.

Bydd unigolion yn derbyn tystysgrifau sy’n cadarnhau eu bod wedi cwblhau’r hyfforddiant. Bydd sefydliadau’n derbyn achrediad fel rhai sy’n hybu cyfathrebu hygyrch unwaith y byddan nhw wedi ymrwymo i ddarparu’r hyfforddiant a chadw at y safonau.

Beth yw anawsterau cyfathrebu?

Beth yw anawsterau cyfathrebu?

Nid yw cyfathrebu yn ymwneud â’r gallu i siarad yn unig. Mae hefyd yn ymwneud â’r gallu i glywed a deall yr hyn sy’n cael ei ddweud wrthym.

Efallai y bydd rhai pobl yn ei chael hi’n anodd gofyn cwestiwn, enwi gwrthrych neu ofyn am help. Efallai y bydd gan eraill anawsterau lleferydd sy’n eu gwneud yn anodd eu deall.

Efallai y bydd eraill yn cael problemau prosesu gwybodaeth ac anawsterau gyda darllen ac ysgrifennu. Efallai y bydd rhai yn defnyddio dyfeisiau cyfathrebu ac angen amser i greu eu neges.

Mae miliynau o bobl ledled y Deyrnas Unedig yn cael anawsterau cyfathrebu, gan gynnwys oedolion a phlant.

Mae pobl gydag amrywiaeth o gyflyrau gan gynnwys parlys yr ymennydd, anableddau dysgu, syndrom Down, awtistiaeth, amhariad ar y clyw, strôc, anaf i’r ymennydd, canserau’r pen a’r gwddf, clefyd Parkinson, clefyd niwronau motor, dementia learning disabilities, Down’s syndrome, autism, hearing impairment, stroke, brain injury, head and neck cancers, Parkinson’s disease, motor neurone disease, dementia a llawer mwy yn profi anawsterau cyfathrebu.

Gall pobl heb unrhyw gyflyrau penodol hefyd fod ag anawsterau cyfathrebu am lawer o resymau.

Mae anawsterau cyfathrebu yn gadael miliynau heb lais, sy’n golygu nad ydyn nhw’r gallu cael mynediad a chyfle cyfartal.

Bydd y symbol a’r hyfforddiant cyfathrebu hygyrch yn cefnogi cyfathrebu cynhwysol i bawb.

Pam hybu Cyfathrebu Hygyrch?

Pam hybu Cyfathrebu Hygyrch?

Mae’r symbol cyfathrebu hygyrch yn cael ei ategu gan safonau sydd wedi’u datblygu’n ganllawiau manwl a phecyn eDdysgu hygyrch.

Pan fydd y rhain wedi cael eu mabwysiadu a’u rhoi ar waith, bydd eich busnes / sefydliad yn cael ei achredu a’i gydnabod fel un sy’n hybu cyfathrebu hygyrch ac yn cael ei gynnwys mewn cyfeiriadur cenedlaethol.

Trwy’r hyfforddiant, bydd staff yn ennill y sgiliau a’r hyder i ymgysylltu â phobl ag anawsterau cyfathrebu yn llawer mwy effeithiol.

Bydd arddangos y symbol yn caniatáu i bobl ag anawsterau cyfathrebu sylweddoli bod eich busnes wedi gwneud yr addasiadau priodol i gefnogi eu hanghenion a’u helpu i ymgysylltu â’ch gwasanaethau gyda mwy o hyder.

Bydd gwell profiad cyfathrebu i bawb yn golygu profiad gwell gwasanaethau cwsmeriaid bob amser.

Bydd y symbol cyfathrebu hygyrch a’r safonau yn:

  • creu mwy o hygyrchedd i nwyddau a gwasanaethau i bobl sydd ag anawsterau cyfathrebu
  • helpu i leihau’r teimlad o ynysu cymdeithasol ac yn gwella ansawdd bywyd pobl sydd ag anawsterau cyfathrebu
  • cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o anawsterau cyfathrebu
  • cyfrannu at ddatblygiad staff ac yn eu galluogi i ddarparu gwasanaethau cwsmeriaid o ansawdd uchel i bawb; a
  • chefnogi busnesau a sefydliadau i gyflawni eu rhwymedigaethau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Darllenwch ein straeon i ddysgu am brofiadau rhai busnesau a sefydliadau ledled y DU sydd wedi cofrestru ar gyfer Communication Access UK.

Login
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.