Canllawiau i sefydliadau
Beth ydyn ni'n ceisio ei gyflawni?
Nod Communication Access UK (CAUK) yw cyflwyno’r symbol cyfathrebu hygyrch i’r DU; yn debyg i’r symbolau hygyrchedd anabledd sydd ar gael fel y symbol hygyrchedd rhyngwladol (y cyfeirir ato’n aml fel y symbol mynediad i gadeiriau olwyn). Ein nod yw gwneud symbol CAUK mor adnabyddus â symbolau hygyrchedd anabledd eraill o dan faner CAUK.
Achrediad
Er mwyn achredu eich sefydliad fel un sy’n hybu cyfathrebu hygyrch ym mlwyddyn gyntaf mabwysiadu’r symbol cyfathrebu hygyrch a’r safonau, byddwn yn gofyn am ymrwymiad cychwynnol gennych i weithredu’r safonau ac i gyflwyno’r pecyn e-ddysgu i’ch staff. Bydd hyn yn cynnwys arwydd o uchelgais eich sefydliad i gyflawni yn erbyn ein safonau isod; yn ogystal ag amcangyfrif o nifer yr aelodau staff a allai dderbyn yr hyfforddiant.
Ar ôl i chi gael eich achredu, bydd eich sefydliad yn cael ei annog i arddangos y symbol cyfathrebu hygyrch.
Er mwyn adnewyddu eich achrediad yn flynyddol, byddwn yn chwilio am enghreifftiau o sut mae eich sefydliad wedi bodloni’r uchelgais a ddatganwyd yn erbyn y safonau a/neu liniaru hynny, a gwybodaeth am nifer yr aelodau staff sydd wedi derbyn yr hyfforddiant, yn erbyn yr amcangyfrif a nodwyd yn flaenorol (a fydd yn cael ei drin fel dangosydd perfformiad).
Ni fydd CAUK byth yn ceisio rhwystro neu atal cyfranogiad sefydliad yn y fenter hon, ond byddwn yn ceisio’n cefnogi ac annog cynnydd yn weithredol.
Mae’r fframwaith isod wedi’i ddatblygu i gefnogi’r gwaith o weithredu’r safonau gyda dangosyddion defnyddiol.
Fframwaith safonau
| Safonau (sy’n berthnasol ar lefel sefydliadol ac yn unigol) | Gweithredoedd: Sut i fodloni safonau ar lefel sefydliadol ac yn unigol: | Dangosyddion Gweithredol: Sut ydw i’n gwybod fy mod i’n gwneud pethau’n iawn: |
| Cydnabod bod pob grŵp yn cynnwys pobl sydd angen cymorth i gyfathrebu | Rhoi ar waith:
• Ymrwymiad cyhoeddus i gyfathrebu hygyrch • Canllawiau arfer da o ran cyfathrebu hygyrch sylfaenol ar gyfer pob dull o gyfathrebu • Hyfforddiant cyfathrebu hygyrch i’w ymgorffori yn yr holl hyfforddiant staff craidd |
• Mabwysiadu’r symbol cyfathrebu hygyrch
• Rhaglen dreigl o hyfforddiant staff • Cynnig ystod o opsiynau i bobl allu cysylltu a rhyngweithio â chi • Mae staff yn gwybod am prompt LLAIS ac yn ei ddefnyddio LLYWIO/AMSER/IAWN?/SICRHAU |
| Darganfod pa gymorth sydd ei angen gan y bobl rydych chi wedi eich sefydlu er mwyn eu gwasanaethu | • Defnyddio’r data sydd ar gael ar ddewisiadau o ran dulliau cyfathrebu eich darpar ddefnyddwyr, a lle bo’n briodol casglu data pellach
• Gofyn i bobl a oes ganddyn nhw angen cymorth i gyfathrebu a beth sy’n eu helpu i ddeall a chyfathrebu â’r sefydliad |
• Mecanweithiau ar waith i unigolion rannu eu dewisiadau o ran dulliau cyfathrebu • Pan fo’n briodol mae dewisiadau o ran dulliau cyfathrebu yn cael eu cofnodi, eu hamlygu a’u rhannu ag eraill |
| Cymryd camau gweithredu bob tro wrth gyfathrebu:
• Addasu’r amgylchedd ffisegol • Sicrhau bod y ffordd rydych chi’n cyfathrebu yn cyfateb â’r ffyrdd y mae pobl yn deall. • Ymateb yn gadarnhaol i’r gwahanol ffyrdd y mae pobl yn mynegi eu hunain |
• Ystyried cyfathrebu hygyrch o ddechrau’r holl weithgareddau, o ddylunio amgylcheddau ffisegol i ddarparu gwasanaethau
• Rhaglen dreigl o hyfforddiant staff sy’n cynnwys gwybodaeth, sgiliau ac agweddau • Rhannu adnoddau cyfathrebu cynhwysol o fewn y sefydliad • Gwybodaeth lafar/ysgrifenedig ar gael mewn fformatau hygyrch |
Mae unigolion:
• Yn cael eu croesawu • Yn cael amser i gyfathrebu, prosesu gwybodaeth a gofyn cwestiynau • Yn cael gwrandawiad • Yn cael gwybodaeth lafar ac ysgrifenedig sy’n hygyrch iddyn nhw |
| Daliwch Ati | • Monitro perfformiad yn erbyn safonau ar lefel sefydliadol ac yn unigol
• Cymryd camau i wella lle bo angen |
• Ail-achrediad blynyddol gan Communication Access UK
• Datganiadau cyhoeddus rheolaidd ar fodloni safonau, a chamau i’w cymryd er mwyn gwella |
Canllawiau
Mae cyfathrebu cynhwysol yn ymwneud â chydnabod y gallai person fod angen cymorth i gyfathrebu ac ystyried y ffordd orau o gyfathrebu i’w helpu fel unigolyn.
Mae cyfathrebu cynhwysol yn golygu rhannu gwybodaeth mewn ffordd y gall pawb ei ddeall.
I ddarparwyr gwasanaeth, mae’n golygu gwneud yn siŵr eich bod yn cydnabod bod pobl yn deall ac yn mynegi eu hunain mewn gwahanol ffyrdd.
I bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau, mae’n golygu cael gwybodaeth a mynegi eu hunain mewn ffyrdd sy’n bodloni eu hanghenion.
Mae cyfathrebu cynhwysol yn ymwneud â phob math o gyfathrebu:
- Cyfathrebu wyneb yn wyneb
- Cyfathrebu ar y ffôn
- Gwybodaeth ysgrifenedig
- Gwybodaeth ar-lein
Mae cyfathrebu cynhwysol yn helpu i gyflawni canlyniadau llwyddiannus i unigolion a’r gymuned ehangach. Mae’n galluogi pobl i fyw’n fwy annibynnol ac i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus.
Nod Communication Access UK yw:
- Gwella ymwybyddiaeth, gwybodaeth a dealltwriaeth o anawsterau cyfathrebu a’u heffaith
- Hyrwyddo agweddau ac ymddygiadau cadarnhaol
- Darparu arweiniad ar newid arferion cyfathrebu i’w gwneud yn fwy cynhwysol
Mae gan Communication Access UK 4 safon allweddol
1) Cydnabod y bydd pob cymuned neu grŵp yn cynnwys pobl sydd ag anghenion cymorth cyfathrebu gwahanol
Enghreifftiau:
- Efallai y bydd rhai pobl angen cymorth dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain neu balanteipydd
- Efallai y bydd rhai pobl angen gwybodaeth mewn fformatau amgen, er enghraifft sain neu brint bras
- Efallai y bydd angen cefnogaeth gwasanaethau eirioli ar rai pobl
- Efallai y bydd rhai pobl yn cael trafferth defnyddio ffôn ac efallai y byddai’n well ganddyn nhw ffordd arall o gyfathrebu fel neges destun neu e-bost
- Mae rhai anghenion cyfathrebu yn llai amlwg ac efallai y bydd angen cymorth arall. Gallai hyn gynnwys iaith y pen a’r corff, ystumiau syml, ffotograffau, darluniau, neu symbolau
- Er mwyn sicrhau y gallwch ddarparu gwasanaethau sy’n hybu cyfathrebu hygyrch, mae’n arfer da neilltuo amser i drefnu gwahanol fformatau neu gymorth cyfathrebu yn dibynnu ar anghenion eich cynulleidfa
2) Darganfod pa gymorth sydd ei angen ar y bobl rydych chi wedi eich sefydlu er mwyn eu gwasanaethu
Enghreifftiau:
- Addasu’r amgylchedd ffisegol er mwyn bod yn groesawgar
- Defnyddio symbolau ar arwyddion y tu allan a’r tu mewn i adeiladau, neu i gynrychioli gwasanaeth ar gardiau apwyntiad, taflenni gwybodaeth a llythyrau
- Hyfforddiant staff drwy Communication Access UK
Sicrhau bod staff perthnasol wedi’u hyfforddi i ddefnyddio’r prompt LLAIS:
- AMSER rhowch fwy o amser os oes angen
- LLYWIO gofynnwch beth sy’n eu helpu a nodwch anghenion cymorth unigolyn (symleiddio’r sgwrs, siarad yn glir, rhoi cymorth ysgrifenedig)
- IAWN? gwnewch yn siŵr eich bod chi a nhw wedi deall
- SICRHAU daliwch ati a dysgwch o gamgymeriadau
3) Byddwch yn rhagweithiol wrth gyfathrebu bob amser
Enghreifftiau:
- Addasu’r amgylchedd ffisegol er mwyn darparu potensial ar gyfer gofod tawel
- Bod yn groesawgar – cyswllt llygaid, helo fy enw i yw …
- Sicrhau bod y ffordd rydych chi’n cyfathrebu yn cyfateb â’r ffyrdd y mae pobl yn deall
- Ymateb yn gadarnhaol i’r gwahanol ffyrdd y mae pobl yn mynegi eu hunain
- Ystyried pa mor hygyrch yw eich cyfathrebu wyneb yn wyneb, ar y ffôn ac ysgrifenedig (gan gynnwys gwefannau)
4) Daliwch Ati
Enghreifftiau:
Rhoi ar waith:
- Ymrwymiad cyhoeddus i gyfathrebu cynhwysol
- Canllawiau arfer da o ran cyfathrebu cynhwysol sylfaenol ar gyfer pob dull o gyfathrebu
- Modiwlau e-ddysgu Communication Access UK ym mhob hyfforddiant cynefino staff craidd
- Adolygu hygyrchedd cyfathrebu yn flynyddol.
Bydd newidiadau bach, syml i’r ffordd rydych chi’n cyfathrebu yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r ffordd y byddwch yn darparu gwasanaethau. Gall rhai newidiadau gymryd mwy o amser, ond bydd y rhain yn arwain at gost-effeithlonrwydd a chynnydd mewn boddhad defnyddwyr.
Mae angen i newidiadau fod ‘o’r brig i lawr’ ac ‘o’r gwaelod i fyny’. Bydd newidiadau mewn diwylliant yn cymryd amser.
Y nod yw cynnydd nid perffeithrwydd!
Y 10 dangosydd perfformiad (yn seiliedig ar egwyddorion cyfathrebu cynhwysol yr Alban)
1) Ymrwymiad cyhoeddus
Bydd Uwch Reolwyr yn rhoi ymrwymiad gweladwy a chyhoeddus i ddarparu gwasanaethau sy’n cefnogi cyfathrebu cynhwysol.
2) Casglu data ar angen
Mae’r gwasanaeth yn defnyddio ystod o ffynonellau data ac ystadegau i ddangos eu bod yn deall yn llawn anghenion cymorth cyfathrebu amrywiol y bobl yn eu hardal.
3) Adolygu cyfathrebu cynhwysol
Canran y gwasanaethau sydd wedi cynnal adolygiad o gyfathrebu cynhwysol. Er enghraifft, drwy ddefnyddio fframweithiau hunanasesu priodol a/neu fel rhan o Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb.
4) Datblygu gwasanaethau
Dangos amrywiaeth o bobl gydag anghenion cymorth cyfathrebu y mae’r gwasanaethau wedi’u haddasu’n llawn ar eu cyfer neu lle mae gwasanaethau’n cael eu datblygu.
5) Hyfforddiant staff
Canran yr holl staff sydd wedi derbyn hyfforddiant penodol ar nodi ac ymateb i amrywiaeth eang o anghenion cymorth cyfathrebu.
6) Cynnwys defnyddwyr (mesur meintiol)
Canran y prosesau datblygu ac adolygu gwasanaethau sydd wedi cynnwys pobl sydd ag anghenion cymorth cyfathrebu amrywiol, sy’n adlewyrchu anghenion poblogaeth yr ardal leol.
7) Cynnwys defnyddwyr (mesur ansoddol)
Canran y bobl gydag anghenion cymorth cyfathrebu sy’n ymwneud â datblygu gwasanaethau ac adolygu prosesau sy’n fodlon â’u cyfraniad cyffredinol i’r broses newid. Rhaid i’r gwasanaeth ddangos bod y dull a ddefnyddir i gasglu’r adborth hwn yn hygyrch i bawb a ddylai ymateb.
8) Sicrhau bod cyfathrebu yn cyfateb ag anghenion defnyddwyr y gwasanaethau
Canran y bobl gydag anghenion cymorth cyfathrebu sy’n defnyddio’r gwasanaethau sy’n cytuno bod y gwasanaeth wedi ymateb yn sensitif i’w hanghenion a’u dewisiadau wrth iddyn nhw ryngweithio â’r gwasanaeth. Rhaid i’r gwasanaeth ddangos bod y dull a ddefnyddir i gasglu’r adborth hwn yn hygyrch i bawb a ddylai ymateb.
9) Defnyddio’r gwasanaethau
Canran y bobl ag anghenion cymorth cyfathrebu sy’n cyrchu neu’n defnyddio’r gwasanaethau, sy’n adlewyrchu poblogaeth yr ardal leol.
10) Gwelliant blynyddol
Canlyniadau o flwyddyn i flwyddyn sy’n dangos gwelliant er mwyn bodloni’r uchod.