Prifysgol East Anglia yn Hyrwyddo Cyfathrebu Cynhwysol
Arwain Cyfathrebu Hygyrch: Menter Sefydliadol
Fel eiriolwr angerddol dros gyfathrebu, rydw i wedi arwain prosiect ar draws y sefydliad ers 2022 i wella cyfathrebu hygyrch i bobl ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu. Roedd ymgorffori menter Communication Access UK (CAUK) a chael achrediad yn rhan annatod o’r prosiect hwn. Roedd ffocws arbennig ar uwchsgilio partneriaid cyfathrebu fel bod staff a myfyrwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu parchu a’u grymuso ar hyd eu teithiau academaidd a phroffesiynol.
“Yn bersonol, fel person awtistig, mae wedi cael effaith gadarnhaol iawn arnaf i weld Lauren yn codi proffil rhwystrau anweledig ac yn gweithio mor galed i sicrhau bod yr anawsterau hyn yn cael eu cydnabod a’u derbyn ar y campws. Mae hwn yn waith hanfodol”. (Cydweithiwr Awtistig)
Mae anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn effeithio ar bron i 20% o’r boblogaeth ar ryw adeg yn eu bywydau (Law et al. 2007), sy’n cyfateb i >4000 o bobl ym Mhrifysgol East Anglia. Mae ein cymuned ar y campws yn amrywiol, gan gynnwys unigolion ag anableddau dysgu, awtistiaeth, ac amhariadau ar y clyw. Mae llawer o anawsterau cyfathrebu yn anweledig. Mae myfyrwyr o gefndiroedd cynyddol amrywiol yn arbennig o agored i anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu. Yn ogystal, mae’r rhai sy’n wynebu heriau iechyd meddwl a myfyrwyr rhyngwladol yn aml yn cael rhwystrau cyfathrebu sylweddol. Gall anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu heb eu bodloni effeithio’n negyddol ar lesiant a pherfformiad academaidd. Mae’r Prosiect Cyfathrebu Hygyrch ym Mhrifysgol East Anglia yn mynd i’r afael ag anghenion y dysgwyr bregus hyn ar draws pob adran a gwasanaeth ar y campws.
“Rydw i mor falch o weld Lauren yn herio ac yn newid polisïau ac arferion y brifysgol er mwyn ystyried anableddau anweledig. Cyn hyn, rhoddwyd llawer mwy o bwyslais ar ystyried amhariadau gweladwy eu natur”. (Cydweithiwr Anabl)
Fel rhan o’r prosiect ehangach, arweiniais ymgyrch ffilm i hyrwyddo hyfforddiant CAUK. Gan ddefnyddio dull cydweithredol, gweithiais gyda thros chwe deg o staff a myfyrwyr o bob sector o Brifysgol East Anglia, gan sicrhau cyllid i ddarparu gwasanaeth dehongli Iaith Arwyddion Prydain a sicrhau bod sgrindeitlau’n cael eu cynnwys, gan ddangos arferion gorau mewn hygyrchedd. Mae’r ffilm wedi cael ei rannu’n eang ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, gan gyrraedd >96,000 o ddilynwyr, ac fe’i defnyddir yn ystod diwrnodau agored a digwyddiadau ymgysylltu Prifysgol East Anglia, gan gyrraedd miloedd o fyfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr.
“Gwnaeth Lauren i ni feddwl am y ffordd rydyn ni’n cyfathrebu gyda’n rhanddeiliaid. Llwyddodd fy nhîm cyfan i gwblhau’r hyfforddiant. Fe wnaethom ni newid ein gweithgareddau Wythnos Groeso ac allgymorth o ganlyniad, gan effeithio ar >29,000 o fyfyrwyr. (Cyfarwyddwr Cysylltiol, Recriwtio, Allgymorth a Digwyddiadau, Prifysgol East Anglia)
Trwy fabwysiadu arddull arweinyddiaeth entrepreneuraidd, fe wnes i uno unigolion ar draws y brifysgol, gan chwalu hierarchaethau traddodiadol. Mae’r ffilm yn cyflwyno neges gymhellol sy’n annog pawb i gwblhau’r modiwlau hyfforddi. O ganlyniad, mae >450 o unigolion wedi cael mynediad at yr hyfforddiant hyd yma
“Mae gwaith Lauren ar gyfathrebu hygyrch yn drawsnewidiol. Dyma enghraifft o sut y dylid rhedeg prosiect cynhwysiant” (Athro Gillespie, Dirprwy Is-Ganghellor Cysylltiol Cynhwysiant Myfyrwyr, Prifysgol East Anglia)
Mesur effaith
Un o brif amcanion y Prosiect Cyfathrebu Hygyrch oedd gwerthuso effaith hyfforddiant CAUK. Wnes i sicrhau cymeradwyaeth foesegol a gweithio gyda chydweithwyr er mwyn integreiddio modiwlau hyfforddi i lwyfannau dysgu Prifysgol East Anglia. Cytunodd cyfranogwyr i gwblhau arolygon pwrpasol a greais er mwyn mesur effaith cyn ac ar ôl hyfforddiant. Roedd y dadansoddiad ystadegol yn datgelu newidiadau sylweddol mewn tri maes allweddol, fel y manylir yn Nhabl-1.
Tabl-1: Data effaith o hyfforddiant CAUK.
| N=337 | C1-Mae gen i ymwybyddiaeth a dealltwriaeth dda o anawsterau cyfathrebu. | C2-Rwy’n hyderus wrth gyfathrebu â phobl ag anawsterau cyfathrebu. | C3- Rwy’n gallu addasu fy nghyfathrebu fy hun i gefnogi pobl ag anawsterau cyfathrebu. | |||
| Cyn yr hyfforddiant | Ar ôl yr hyfforddiant | Cyn yr hyfforddiant
|
Ar ôl yr hyfforddiant
|
Cyn yr hyfforddiant | Ar ôl yr hyfforddiant | |
| Cytuno/Cytuno’n Gryf | 76% | 97% | 55% | 90% | 70% | 94% |
| Anghytuno/Niwtral | 24% | 3% | 45% | 810 | 30% | 6% |
| prawf t | Z=-6.65437, gwerth p<0.0001 |
Z=-8.65515,
gwerth p<0.0001 |
Z=-6.66242,
gwerth p<0.0001 |
|||
Mae’r prosiect wedi newid ymagwedd Prifysgol East Anglia at Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn sylfaenol gan fy mod wedi pwysleisio bod cyfathrebu wrth wraidd perthyn. Mae canfyddiadau’n llywio polisi ac ymarfer er mwyn gwella profiadau myfyrwyr ac addysgwyr. Rydw i wedi ysgogi datblygiadau sylweddol yn ein harferion Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, gan arwain adrannau (Arlwyo a Lletygarwch, Llety, Chwaraeon a Gwasanaethau Masnachol) i sicrhau hyfforddiant gorfodol ar gyfer staff blaen y tŷ. Mae hynny wedi arwain at well ymarfer perthnasol a chynhwysol. Hefyd, rydyn ni wedi arddangos y symbol Cyfathrebu Hygyrch ar draws y campws, gan atgyfnerthu ymrwymiad Prifysgol East Anglia i fod yn sefydliad sy’n hybu cyfathrebu hygyrch. Fe wnes i greu cod QR unigryw ac addasu dyluniad y symbol er mwyn arwain pobl yn uniongyrchol i’r llwyfannau hyfforddi ar-lein.
“Mae gweld y symbol o amgylch y campws eisoes wedi dechrau gwneud i Brifysgol East Anglia deimlo hyd yn oed yn fwy cynhwysol a hygyrch”. (Llywydd Cymuned Myfyrwyr Anabl, Prifysgol East Anglia)
Mae prosiect Lauren wedi helpu i “normaleiddio rhywbeth rydw i wedi teimlo’n annormal amdano ers blynyddoedd, mae’n gwneud i mi deimlo fel ei bod yn iawn cael y gwahaniaethau hyn. Mae hyn yn gwneud i mi deimlo’n llai unig”.Myfyriwr gydag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu
Hefyd, cefais gymeradwyaeth ac achrediad gan CAUK. Dyma gamp drawsnewidiol sy’n sefydlu Prifysgol East Anglia fel y brifysgol gyntaf i dderbyn y gydnabyddiaeth hon. Yn ddiweddar, rydw i wedi sicrhau ein hachrediad blynyddol am y drydedd flwyddyn yn olynol. Ar hyn o bryd rwy’n cefnogi prifysgolion eraill yn y DU i ennill yr achrediad ac rydw i wedi partneru’n llwyddiannus â darparwyr gofal iechyd cenedlaethol i gyflawni’r achrediad. Mae hyn yn arwyddocaol gan fod ein myfyrwyr ym Mhrifysgol East Anglia yn treulio cyfnod ar leoliad mewn cyfleusterau gofal iechyd.
“Mae Lauren wedi fy helpu i werthfawrogi anghenion cyfathrebu amrywiol unigolion. O ganlyniad, rydw i wedi newid fy arddull addysgu i addasu iaith.” (Cymrawd Ymchwil, Prifysgol St. George Llundain)
Mae cydweithwyr o sefydliadau allanol yn rhoi hyfforddiant Cyfathrebu Hygyrch ar waith ac yn gweld cyrhaeddiad ac effaith ehangach; mae mentoriaid myfyrwyr ym Mhrifysgol Westminster yn defnyddio eu hyfforddiant i gefnogi myfyrwyr ag anawsterau dysgu penodol ac mae Prifysgol Napier Caeredin yn cynnal cyfres cyfathrebu tosturiol yn dilyn eu hyfforddiant.
“Mae (CAUK) wedi gwneud i mi fyfyrio ar fy mraint… mae wedi gwneud i mi bwyllo er mwyn sicrhau fy mod mor gynhwysol â phosibl ac yn ystyried anghenion fy holl fyfyrwyr”. Darlithydd, Prifysgol Westminster
Trwy godi ymwybyddiaeth o wahaniaethau cyfathrebu, mae unigolion yn teimlo’n fwy hyderus wrth gyfathrebu â’r rhai sydd ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu. Maen nhw’n fwy ymwybodol o sut y gallan nhw addasu eu cyfathrebu i gefnogi anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu, ac mae hyn wedi helpu i leihau stigma a phrofiadau negyddol. Mae tystiolaeth ansoddol yn dangos bod fy nylanwad ar gydweithwyr wedi effeithio’n gadarnhaol ar brofiad dysgu myfyrwyr:
“Rydw i’n gwybod fy mod wedi gwneud gwell gwaith heddiw ar ôl gwrando arnoch chi… Rydw i wedi newid fy ymarfer o ganlyniad ac wedi darganfod fy mod yn rhyngweithio’n well gyda myfyrwyr”. (Dr Forster, Dirprwy Is-Ganghellor Cysylltiol Dinesig, Prifysgol East Anglia)
Mae hyfforddiant CAUK “wedi cynyddu fy hyder mewn cyfathrebu â phawb, ac fel myfyriwr meddygol, byddaf yn defnyddio hwn yn fy ymarfer clinigol yn ogystal â fy mywyd bob dydd”. (Myfyriwr Meddygol)
Cydnabyddiaeth, lledaenu ymarfer da ac ymgysylltu â’r cyhoedd
Mae canfyddiadau’r prosiect wedi cael eu rhannu mewn fforymau cenedlaethol, gan gynnwys Advance AU (2024), Cymdeithas yr Uwch Addysgwyr Ymarfer (2024), a Chynhadledd Coleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd (2023). Rydw i wedi cyflwyno papur academaidd yn ddiweddar – Flannery, L., & Bunning, K. (d.d.). E-learning for Inclusion: An Evaluation of Institution-wide Communication Access Training in UK Higher Education. Journal of Inclusive Education (dolen i ddilyn) – ac wedi ymhelaethu ymhellach ar fenter CAUK trwy flogiau a bwletinau proffesiynol. Rydw i hefyd wedi ymgysylltu â chynulleidfaoedd lleol a rhanbarthol, er enghraifft yng Ngŵyl Wyddoniaeth Norwich (2023).
Yn ogystal, cynhaliais weithdy ysgol haf i fyfyrwyr o Brifysgol Tohoku yn Japan, i rannu Communication Access UK fel rhan o weithdy ehangach ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ac ymestyn effaith y tu hwnt i Brifysgol East Anglia.
Rydw i’n falch o fod wedi arwain rhaglen gynhwysfawr ar draws sefydliad cyfan gydag effaith, cyrhaeddiad a gwerth amlwg, sydd wedi ennill cydnabyddiaeth ar ffurf gwobrau sector gan gynnwys Gwobr Prosiect Ymgysylltu Prifysgol East Anglia (2024) a Gwobr Effaith Ymchwil Cyfadrannau (2023). Llwyddodd y fenter hefyd i gyrraedd rownd derfynol Gwobr RCSLT ar gyfer Meithrin Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (2024). Ym mis Medi 2025, cefais fy nghydnabod yn genedlaethol gyda Gwobr Change H.E., sy’n dathlu unigolion sy’n ysgogi newid ystyrlon mewn Addysg Uwch trwy weithredu, cynhwysiant ac effaith.
“Mae eich ymrwymiad i gynhwysiant, hygyrchedd, a pherthyn ym maes Addysg Uwch yn ysbrydoledig, ac mae eich arweinyddiaeth wedi creu newid sy’n ymestyn ymhell y tu hwnt i’ch sefydliad eich hun”. Sylfaenydd, Change H.E.
Mae’r Prosiect Cyfathrebu Hygyrch yn golygu bod Prifysgol East Anglia bellach yn rhoi pwyslais ffurfiol ar gyfathrebu cynhwysol ar lefel sefydliadol yn hytrach na’i fod yn rhywbeth sy’n digwydd ar hap a damwain. Trwy gysylltu arweinyddiaeth berthnasol gyda gwerthuso wedi’i dargedu a gweithredu gweladwy, gwnaethom wella sgiliau a hyder ar raddfa briodol, lleihau stigma, ac ail-lunio polisi ac ymarfer. Mae’r achrediad CAUK cyntaf yn y sector, canlyniadau cryf, ac ailachredu parhaus yn dangos bod y newid hwn yn para, ac yn parhau i dyfu trwy bartneriaeth.
Mae unrhyw un sy’n ysgogi newid ystyrlon mewn Addysg Uwch yn gwybod fod angen dyfalbarhad, ond dyna beth sydd ei angen er mwyn dileu rhwystrau a gwneud cynhwysiant yn realiti. Mae gweld effaith menter CAUK ym Mhrifysgol East Anglia, trwy fyfyrwyr sy’n tyfu mewn hyder, cydweithwyr sy’n mabwysiadu arferion cynhwysol newydd, a hyd yn oed sefydliadau eraill sy’n dilyn arweiniad Prifysgol East Anglia, yn ein hatgoffa o bwysigrwydd y gwaith hwn ac yn rhoi egni newydd i mi barhau i wthio am newid, hyd yn oed pan fydd y llwybr yn heriol.
Mae Lauren Flannery yn Therapydd Iaith a Lleferydd Arbenigol ac yn Athro Cysylltiol yn Ysgol y Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol East Anglia. Mae ganddi Gymrodoriaeth Addysgu Prifysgol ac mae’n angerddol am gynhwysiant a hygyrchedd o fewn Addysg Uwch. Mae addysgeg berthnasol yn sail i lawer o’i haddysgu, ysgolheictod ac arweinyddiaeth sy’n pwysleisio bod cyfathrebu, cysylltiad, a pharch y naill at y llall yn hanfodol er mwyn dysgu.