Astudiaeth achos Dundee
Cefndir
Mae Dundee, dinas yn yr Alban, wedi cymryd camau breision i wella hygyrchedd cyfathrebu i bobl ag anawsterau cyfathrebu. Mae’r fenter hon yn rhan o raglen ehangach i wireddu rhwymedigaethau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ac i wneud mannau a gwasanaethau cyhoeddus yn fwy hygyrch.
Prif Ysgogwyr a Rhanddeiliaid
- Prif Gyfranwyr: Abi Roper (Cymrawd Ymchwil Prifysgol Llundain, City St George’s, yn byw yn Dundee), Amy Hanschell (Therapydd Lleferydd ac Iaith, GIG Tayside), Sarah Heatley (Therapydd Lleferydd ac Iaith, GIG Tayside)
- Partneriaid Cymunedol: Speakability Tayside , Biwro Confensiwn Rhanbarth Dinas Dundee (yn benodol Tracy Duncan), dinas Dylunio UNESCO Dundee (yn benodol Cyfarwyddwyr Gŵyl Dylunio Annie Marrs a Calum Rennie), Celfyddydau Cyfoes Dundee (DCA – yn benodol Beth Bate), Prifysgol Dundee (yn benodol Emma Watt a Susan Giel ), Ymddiriedolaeth Treftadaeth Dundee , ac eraill.
Partneriaid Cymunedol: Speakability Tayside, Dundee City Region Convention Bureau (yn benodol Tracy Duncan), Dundee UNESCO city of Design (yn benodol Cyfarwyddwyr yr Ŵyl Ddylunio Annie Marrs a Calum Rennie), Dundee Contemporary Arts (DCA – yn benodol Beth Bate), Prifysgol Dundee (yn benodol Emma Watt a Susan Giel), Ymddiriedolaeth Treftadaeth Dundee, ac eraill.
- Grwpiau Targed: Staff rheng flaen (gwasanaethau cwsmeriaid, derbynfa, swyddogion tai, gweithwyr cymdeithasol), arweinwyr tîm, rheolwyr, AD, cynghorwyr dysgu a datblygu, timau cyflogadwyedd, swyddogion ymgysylltu â’r gymuned, arweinwyr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, staff gweinyddol, gwirfoddolwyr digwyddiadau, a rhanddeiliaid allweddol yn y sectorau twristiaeth a lletygarwch.
Dull Gweithredu
- Cyflwyno Hyfforddiant: Cynigiwyd hyfforddiant Communication Access UK yn rhad ac am ddim i amrywiaeth eang o staff a gwirfoddolwyr ar draws sectorau cyhoeddus, diwylliannol a lletygarwch Dundee.
- Siaradodd Therapyddion Lleferydd ac Iaith ag arweinwyr busnesau ac elusennau lleol trwy e-bost, yn bersonol a thrwy gyflwyniad a defnyddio’r strategaethau cymell canlynol:
- Ysgogi ysbryd cystadleuol trwy dynnu sylw at fabwysiadwyr cynnar (e.e., DCA, gwirfoddolwyr a staff Gŵyl Ddylunio Dundee).
- Darparu dyddiadau cau a chymhellion, megis cwblhau’r hyfforddiant cyn cynadleddau mawr a chynnig cyhoeddusrwydd cadarnhaol.
- Ymgysylltu â ffigurau lleol dylanwadol (e.e., Tracy Duncan) i hyrwyddo’r fenter.
- Cyfathrebu ac Ymgysylltu:
- Defnyddio negeseuon e-bost a chyfarfodydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant i hyrwyddo’r hyfforddiant.
- Rhannu straeon dynol i ddangos effaith anawsterau cyfathrebu a phwysigrwydd cyfathrebu hygyrch.
- Cyfathrebu wedi’i dargedu trwy gylchlythyrau’r diwydiant twristiaeth a grwpiau mynediad lleol.
Canlyniadau
- Defnydd Eang: Cwblhawyd hyfforddiant gan staff a gwirfoddolwyr mewn lleoliadau a digwyddiadau diwylliannol mawr, gydag ymrwymiadau gan sefydliadau ychwanegol.
- Ymgysylltu â Sectorau: Cyrhaeddodd y fenter amrywiaeth o sectorau gwahanol gan gynnwys treftadaeth, addysg, lletygarwch a thwristiaeth.
- Effaith ar y Gymuned: Codi ymwybyddiaeth o anawsterau cyfathrebu (e.e., affasia, sy’n aml yn ganlyniad i strôc) ac arfogi staff i gefnogi unigolion gyda’r heriau hyn yn well.
Gwersi a Ddysgwyd
- Cymhellion a Dyddiadau Cau: Roedd gosod dyddiadau cau clir a chynnig cymhellion (fel cyhoeddusrwydd) yn cynyddu cyfranogiad.
- Cefnogaeth Arweinwyr: Roedd sicrhau cefnogaeth gan arweinwyr a sefydliadau lleol dylanwadol yn hanfodol ar gyfer momentwm.
- Adrodd Straeon: Roedd rhannu straeon bywyd go iawn yn helpu i wneud yr angen am gyfathrebu hygyrch yn bersonol ac yn cymell gweithredu. Dechreuwyd hyn gyntaf mewn perthynas â DCA lle mae’r grŵp cymorth affasia lleol (Speakability Tayside) wedi bod yn llogi’r lleoliad ers amser maith.